Teulu Richard Edwards, Nantwatcyn, Cwmystwyth
Teulu Richard Edwards, Nantwatcyn, Cwmystwyth
Disgrifiadau
Teulu Richard Edwards, Nantwatcyn, Cwmystwyth. Llun yn dangos teulu Richard Edwards oedd yn byw yn Nantwatcyn, ty yng nghanol y gwaith mwyn. Rhes ol: Alfred Edwards, William Edwards (laddwyd yn WW1). Rhes ganol: Richard Edwards, Ifor Edwards, Margaret Edwards, Jack Edwards (oedd nes ymlaen yn byw yn Nevill Place), Winifred Edwards. Rhes flaen: Myforwen Edwards a Gwen Edwards. Ym 1843, cyn adeiladu ty Nantwatcyn, gwnaed ymdrech i sefydlu capel Wesleiaidd ar y safle ac aeth mor bell â thorri sael i'r capel, ond methodd yr achos oherwydd prinder aelodau. Erbyn heddiw, crochendy sydd yn Nantwatcyn.
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment