Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

This content isn't available for download, please contact us.

Disgrifiad

Y Ddaear yw’r unig blaned yn y bydysawd â bywyd arni, hyd y gwyddom. Mae rhai creigiau gwaddodol yn cael eu ffurfio trwy weithgarwch pethau byw. Cafodd y calchfaen hwn ei greu gan organebau morol microsgopig, sy’n secretu cregyn amddiffynnol o galsiwm carbonad. Pan mae’r anifeiliaid yn marw, mae’r cregyn yn parhau ac yn caledu’n galchfaen.

Mae bywyd yn effeithio ar y Ddaear mewn sawl ffordd. Yn wir, bywyd a greodd yr atmosffer o’n cwmpas. Mae planhigion yn amsugno dŵr a charbon deuocsid, dau beth sy’n cynnwys ocsigen. Maen nhw’n defnyddio’r carbon mewn carbon deuocsid a’r hydrogen mewn dŵr i greu cemegolion o bob math, ac yn rhyddhau ocsigen fel deunydd gwastraff. Mae anifeiliaid yn bwyta planhigion i gael egni, ac yn dychwelyd dŵr a charbon deuocsid yn ôl i’r amgylchedd.

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw