arrowbookcheckclosecommentfacebookfavourite-origfavouritegooglehomeibapdfsearchsharespotlighttwitterwelsh-government
  • Use stars to collect & save items A vector image of star to represent action to save this item  mewngofnodi i gadw'r eitem hon

Disgrifiad

Grŵp o folysgiaid morol diflanedig yw amonitau, a ddiflannodd yn ystod Difodiant y Cyfnod Trydyddol Cretasig 65 miliwn o flynyddoedd yn ôl. Yr octopws, y fôr lawes a’r fôr-gyllell yw perthnasau agosaf amonitau sy’n dal yn fyw heddiw.

Roedd amonitau’n dodwy eu hwyau mewn swp unigol ar ddiwedd eu hoes. Byddai’r rhain, ynghyd ag amonitau ifanc, yn arnofio ar wyneb y cefnfor pan gawsant eu lladd gan effeithiau’r ardrawiad meteorit.

Credir bod eu perthynasau modern wedi llwyddo i oroesi am iddynt ddodwy wyau ar wely’r môr, ac mewn sypiau llai sawl tro yn ystod eu hoes, gan leihau’r perygl o golli poblogaeth gyfan yn sgil un digwyddiad.

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw