Fertebra Igwanodon
Fertebra Igwanodon
Disgrifiadau
Roedd yr Igwanodon yn byw rhwng y Cyfnod Jwrasig Diweddar a’r Cyfnod Cretasig Diweddar yn Asia, Ewrop a Gogledd America. Roedd yn llysysydd mawr, a’i nodweddion mwyaf unigryw oedd ei sbigynnau bawd enfawr a ddefnyddiai i’w amddiffyn rhag ysglyfaethwyr.
Mae nodweddion diddorol i’w gweld ar yr asgwrn deinosor hwn, fel y ceudodau lle bu gwaed yn llifo i’r asgwrn ar un adeg. Defnyddiwyd y ‘camlesi’ hyn fel tystiolaeth bod deinosoriaid yn anifeiliaid gwaed cynnes.
Os felly, fe allai hynny esbonio pam y gwnaethant ddiflannu o’r tir yn ystod Difodiant y Cyfnod Trydyddol Cretasig, tra llwyddodd eu perthynasau gwaed oer fel crocodeiliau i oroesi.
Ffynhonnell allanol:
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment