Skip to main content

Meteorit haearn

Disgrifiadau

Dyma un o’r miloedd lawer o ddarnau o feteorit a ddisgynnodd i’r Ddaear ar 12 Chwefror 1947, ym mynyddoedd Sikhote-Alin, i’r gogledd-ddwyrain o Vladivostok, Rwsia. Soniwyd am olau llachar yn yr awyr a sŵn byddarol i’w ganlyn.

Wrth i’r meteorit gyrraedd yr atmosffer ar gyflymder o ryw 14 km yr eiliad, dechreuodd chwalu’n ddarnau. Fe wnaeth rhai darnau o’r meteorit greu craterau, gyda’r mwyaf ohonynt yn mesur rhyw 26m ar draws a 6m o ddyfnder.

Pam mae meteorit wedi’i wneud o Fetel?

Fe wnaeth isotopau ymbelydrol yng nghysawd cynnar yr haul greu digon o wres mewn asteroidau mawr i’w toddi a’u rhannu’n graidd, mantell a chramen. Craidd asteroid yw’r meteorit hwn, ac mae wedi’i wneud o’r un deunyddiau â chraidd y Ddaear. Wedi i’r asteroid wahaniaethu, cafodd ei chwalu’n chwilfriw gan wrthdrawiad asteroid, ac fe wnaeth y darn hwn o’i graidd anelu at gyfeiriad y Ddaear.

Owner:
Amgueddfa Cymru - National Museum Wales
Crëwr:
Amgueddfa Cymru - National Museum Wales
Gwybodaeth drwydded
Eitem wedi’i llwytho:
24/10/2019
Gwelediadau:
933
Ffefrynnau:
0

More items with these tags

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment