Pastwn Cyflwyno Terfysgoedd Tonypandy
Disgrifiadau
Ym mis Hydref 1910, yng Nglofa'r Cambria Combine, cafodd tua 800 o lowyr a oedd yn gwrthwynebu'r system gyflogau newydd eu cloi allan o'r pwll. Yna, aeth tua 12,000 o lowyr ar streic, ac arweiniodd y gwrthdaro a ddilynodd rhwng y streicwyr a'r heddlu at drais a therfysg.
Ym mis Hydref 1911, derbyniodd y glowyr delerau newydd a dychwelyd i'r gwaith.
Dyma eitem prin; tybir mai dim ond nifer fach (chwech) o'r pastynau hyn sy'n bodoli. Mae tri ohonynt yn rhan o gasgliad Ross Mather Police Memorabilia of Wales Collection.
Y trydydd, a'r diweddaraf i gael ei ychwanegu at y casgliad yw'r un sy'n cael ei ddangos gyda 'L.L. to R.D.'
Comisiynwyd nifer fach yn arbennig gan Lionel Lindsay, Prif Gwnstabl Morgannwg, i'w gyflwyno i'r rhai y credai eu bod yn deilwng o gael eu cydnabod mewn ffordd arbennig oherwydd eu hymddygiad ar noson 7/8fed Tachwedd 1910 yn ystod yr ymosodiad ar Lofa Morgannwg, Llwynypia.
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment