Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.
Disgrifiad
Llun du a gwyn, a gymerwyd tua 1928, mae'n debyg, o gynulleidfa Iddewig Pontypridd yn sefyll ar risiau ar ochr yr adeilad. Mae'r ddelwedd yn cofnodi agoriad swyddogol y neuadd gymunedol Iddewig newydd yn islawr y Synagog yn Cliff Terrace. Yr hen wraig ar y blaen yw Sarah Freedman, sef yr aelod hynaf o'r gynulleidfa ar y pryd hwnnw. Y dyn sy'n gwisgo'r gadwyn swyddogol yw Artemus Seymour, Cadeirydd Cyngor Dosbarth Trefol Pontypridd am y flwyddyn 1933-34. Roedd yn gynghorydd Llafur dros Cilfynydd. Y Rabbi yw Isaac Chaitowitz (1906-1972), a fu'n gwasnaethu am mlynedd ym Mhontypridd, o 1926-1936. Arferai fod yn Rabbi ym Mrynmawr.
Sefydlwyd Synagog cyntaf ym Mhontypridd yn 1867, pan drowyd ystafell ysgol yn fan addoli, ond mae'r gymuned Iddewig yn dyddio'n ôl i'r 1840au o leiaf. Er bod aelodaeth o'r gynulleidfa yn parhau'n fach, sefydlodd y gynulleidfa eu adran eu hunain ym mynwent Glyntaf yn y 1890au a chodi Synagog yn Nhrefforest yn 1895. Diddymwyd y gynulleidfa yn 1978 ac fe werthwyd Synagog Cliff Terrace a'i droi'n fflatiau.
Ffynonellau:
' The History of the Jewish Diaspora in Wales ' gan Cai Parry-Jones (http://e.bangor.ac.uk/4987).
JCR-UK/JewishGen (https://www.jewishgen.org/jcr-uk/community/val1_tredegar/index.htm).
Blwyddlyfr Iddewig (JYB), 1896-1929.
Archifau Morgannwg: (http://calmview.cardiff.gov.uk/Record.aspx?src=CalmView.Catalog&id=D1717%2f1%2f1&pos=2).
Storfa: Archifau Morgannwg.
Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod
Sylwadau (3)
Rhaid mewngofnodi i bostio sylw