Cyfarchiad Goliwiedig Heddlu Bwrdeistref Hwlffordd 1889
Disgrifiadau
Cyfarchiad goliwiedig wedi ei fframio, dyddiedig 21 Ionawr 1889, i'r Rhingyll John Simpson o Heddlu Bwrdeistref Hwlffordd gynt. 6 chwnstabl yn unig oedd yn rhan o Heddlu Bwrdeistref Hwlffordd ... un Prif Gwnstabl, un Rhingyll a thri Cwnstabl. Daeth i ben yn 1889 pan unodd gyda Heddlu Sir Benfro; arferai cyfarchiadau goliwiedig o'r math yma fod yn rhan bwysig o ddathlu rhywbeth a gyflawnwyd. Yn gyffredinol, roeddent yn addurniedig iawn ac yn aml yn cynnwys elfennau o hanes person, ynghyd â chyfres o ddelweddau. Heddiw mae'r grefft o greu cyfarchiadau goliwiedig wedi peidio â bod i bob pwrpas. Ar eu gorau, roeddent yn weithiau celf. Mae'r darn yma yn mesur oddeutu 30 modfedd o uwchder.
Rhan o gasgliad Ross Mather Police Memorabilia of Wales Collection.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment