Menig paffio'n perthyn i'r paffiwr pwysau plu enwog Jim Driscoll [delwedd 1 o 1]
Disgrifiadau
Ganed Driscoll ar 15 Rhagfyr 1880 yn ardal Wyddelig Caerdydd. Aeth yn broffesiynol ym 1901 a'i fraich chwith arswydus a arweiniodd ef i ddod yn Bencampwr Pwysau Plu Cymru, Prydain, Ewrop a'r Ymerodraeth. Cadwodd Bencampwriaeth Pwysau Plu Cymru o 1 Chwefror 1904 tan 28 Mai 1916, y teitl Prydeinig o 1906 tan 1913, yr Ymerodraeth rhwng 1908 a 1913 a theitl Ewrop rhwng 1912 a 1913. Hawliodd hefyd deitl Pencampwr Pwysau Plu "Y Byd" rhwng 1909 a 1913 wedi i ornest yn erbyn y pencampwr Abe Attell yn yr UDA orffen heb benderfyniad. Bu farw "Peerless" Jim Driscoll ym 1925 a dilynodd torf o tua 100,000 ei arch i'w angladd ym Mynwent Cathays yng Nghaerdydd.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment