Bathodyn Clwb Criced a Phêl-droed Abertawe, sefydlwyd ym 1875
Disgrifiadau
Roedd Clwb Criced a Rygbi Abertawe'n un o'r un tîm rygbi ar ddeg a oedd yn bresennol wrth i Undeb Rygbi Cymru gael ei ffurfio ym mis Mawrth 1881.
Er eu bod yn cael eu hadnabod fel 'the All Whites', ni fabwysiadodd y clwb y tan fis Ionawr 1925 y strip gwyn, wedi iddynt arbrofi gyda chylchau glas a gwyn a hefyd crysau coch.
Gyda buddugoliaethau yn erbyn Awstralia ym 1908, De Affrig ym 1912 a Seland Newydd ym 1935, daeth Abertawe y clwb cyntaf o Gymru i guro'r '3 Mawr' o'r hemisffer deheuol.
Mae diwedd y 1970au a dechrau'r 1980au hefyd yn cael eu cofio am un o gyfnodau mwyaf llwyddiannus Abertawe hyd yn hyn. Gyda chwaraewyr fel Clem Thomas, Dewi Bebb, Mervyn Davies, Geoff Wheel a David Richards, enillodd y tîm Gwpan Cymru ym 198 a'r Gynghrair ym 1979/80, 1980/81 a 1982/3.
Gyda chyflwyniad y system rhanbarthol yn 2003-4, daeth Abertawe'n gyd-berchnogion ar dîm y Gweilch Castellnedd-Abertawe. Mae'r clwb yn chwarae yn y Brif Adran ac yn cynnig llwybr ddatblygu i'r chwaraewyr rhanbarthol.
Ffynonellau:
<a href="http://www.swansearfc.co.uk/history_about.php">http://www.swansearfc.co....
Rugby Clubs of Wales
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment