Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

Roedd yr allwedd hon yn rhoi mynediad i glwb nos o' r enw SIRS ar Heol y Santes Fair. Meddai Lewis Robinson: 'Fe wnaeth 'Sirs' agor yn ystod y 1970au a chau rhywbryd yn y 1990au. Mi ges i allwedd i 'Sirs' tua 1981 pan symudais i Gaerdydd. Clwb i aelodau yn unig oedd 'Sirs' ac roedd rhaid i chi gael allwedd er mwyn i chi allu mynd i mewn iddo. Clwb i ddynion hoyw yn unig ydoedd a châi dynion eu gwahodd i fod yn aelodau. Roedd 'Sirs' yn gwbl unigryw ac yn lle gwych i fynd iddo. Mae gen i lawer o atgofion hapus yno. Roedd yna deimlad gwych o ryddid yno am fod pawb yn gallu bod yn nhw eu hunain, doedd dim rhaid i chi guddio pwy oeddech chi, neu esgus bod yn rhywun arall. Roedd drws sengl i 'Sirs' drwy fynedfa' r stryd, ac roedd angen yr allwedd arnoch i fynd i mewn trwy'r drws hwn. Nid oedd unrhyw arwyddion na dim i nodi mai 'Sirs' ydoedd, felly doedd gan y dyn cyffredin ddim unrhyw syniad bod clwb i hoywon yno.'

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw