arrowbookcheckclosecommentfacebookfavourite-origfavouritegooglehomeibapdfsearchsharespotlighttwitterwelsh-government

Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

Arferai'r lamp yma grogi uwchben y fynedfa i dafarn y 'Kings Cross'. Roedd yr adeilad lle roedd y Kings Cross yn masnachu cael ei ddefnyddio ar gyfer sawl pwrpas, ond fe’i hadwaenid fel tafarn y ‘Kings Cross’ erbyn tua 1907. Denodd tafarn y ‘Kings Cross’ y gymuned LGBTQ+ o’r 1970au ymlaen tan iddi gau yn 2010. Dyma sut mae ymwelydd â Mardi Gras Caerdydd yn dwyn i gof y dafarn: 'Kings Cross' Caerdydd oedd fy mhrofiad cyntaf i o gael noson allan hoyw. Roedd hi'n noson fendigedig , ac fe wnaeth hi wirioneddol wneud i mi sylweddoli pa mor agored a chroesawgar gall noson hoyw allan fod. Mae'n drueni ei bod wedi cau.'

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw