Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.
Disgrifiad
Cafodd y crys-T hwn ei wisgo gan y Cardiff Dragons o 2008-2011. CPD Cardiff Dragons yw'r Clwb Pêl-Droed LGBTI. Mae David Amos yn cofio sut y sefydlwyd Dreigiau Caerdydd: 'Nid oeddwn wedi meddwl am funud y byddai tîm yng Nghaerdydd. Yn 2008, cysylltodd dau ddyn o Birmingham â mi (trwy’r Rhwydwaith Cefnogwyr Pêl-droed Hoyw) a oedd yn dod i’r brifysgol yng Nghaerdydd… fe wnaethan nhw ofyn a oedd unrhyw dimau yng Nghaerdydd… a dywedais ‘nac oes’. Dywedon nhw y byddent yn rhoi rhywbeth ar y rhyngrwyd i weld a fyddai unrhyw un eisiau dod i sesiwn hyfforddi. Dyna sut y dechreuodd y cyfan ym mis Gorffennaf 2008. Daeth 13 o bobl i’n sesiwn hyfforddi cyntaf… mae wedi mynd o nerth i nerth.'
Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod
Sylwadau (0)
Rhaid mewngofnodi i bostio sylw