Skip to main content

Bathodyn siaced Clwb Rygbi Aberafan, 20fed ganrif

Disgrifiadau

Ffurfiwyd Clwb Rygbi Aberafan ym 1887 er i dîm Afan yn cynnwys chwaraewyr o Aberafan, Cwmafon a Thaibach chwarae timau lleol eraill ers diwedd y 1870au. Ym mis Ionawr 1897, daeth yr asgellwr Dan Jones y chwaraewr cyntaf o Aberafan i chwarae i'r tîm cenedlaethol, a sgriodd gais yn erbyn Lloegr yn ystod ei gêm gyntaf.
Roedd y cyfnod rhwng y rhyfeloedd yn llwm i'r tîm cenedlaethol, ond yn un o'r gorau yn hanes Clwb Rygbi Aberafan. Enillodd Bencampwriaeth Clybiau Cymru am bedair blynedd yn olynol rhwng 1923 a 1927. Un o sêr y clwb oedd yr asgellwr Johnny Ring, a sgoriodd 46 cais yn ystod tymor 1920-21. Daeth y clwb i gael ei adnabod yn 'The Wizards' wedi i newyddiadurwr o'r Evening Post ddisgrifio'r tîm fel 'the Wizards of the West' yn dilyn eu perfforiad arbennig yn erbyn Casnewydd ar 22 Tachwedd 1924. Mabwysiadwyd arwyddlun y dewin ar ôl yr Ail Ryfel Byd.
Ffynonellau:
Aberavon RFC Official Website (<a href="http://www.aberavonwizards.co.uk/history.htm">www.aberavonwizards.co.uk/...)

Owner:
Welsh Sports Hall of Fame
Crëwr:
Unknown
Gwybodaeth drwydded
Reproduced by permission of Welsh Sports Hall of Fame
Copyright Details:
Neuadd Enwogion Chwaraeon Cymru 2008
Publisher Ref:
GTJ83288
Eitem wedi’i llwytho:
3/3/2010
Date originally created:
1/1/1900 - 31/12/1999
Gwelediadau:
1553
Ffefrynnau:
0

More items with these tags

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment