Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

Ffurfiwyd Clwb Rygbi Resolfen ym 1885 a chynhaliwyd gemau ar gae Tan-y-rhiw ar y dechrau. Newidiwyd safle'r maes y bu'r clwb yn chwarae arno sawl gwaith dros y blynyddoedd. Defnyddiwyd Drehir, lle buont yn chwarae yn ystod y Rhyfeloedd Byd, yn safle ffatri arfau rhyfel yn ystod yr Ail Ryfel Byd, fel nad oedd gan y clwb faes chwarae ar ddiwedd y rhyfel.
Dychwelodd Resolfen i Dan-y-rhiw ym 1946 a rhoddwyd eiddo rhydd-ddaliol y cae i'r clwb gan deulu Vaughan o Reola ym 1954. Wedi hynny galwyd y cae yn Faes Rygbi Vaughan.

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw