Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

Ym mis Ionawr 2019 dechreuais helpu gyda chynllun i adfer llifddorau Ynysangharad ym Mhontypridd. Fel gwirfoddolwr rwyf wedi bod yn dysgu nid yn unig am hanes Camlas Morgannwg ond hefyd dysgu sgiliau
newydd sydd eu hangen wrth adnewyddu a chynnal a chadw'r gamlas.Mae grŵp Cadwraeth Camlas Pontypridd bob amser yn chwilio am wirfoddolwyr newydd. Cymerwch olwg ar eu gwefan http://www.pontypriddcanalconservation.com/.
Gall y gwaith fod yn galed ar brydiau ond mae'n yn rhoi boddhad mawr. Mae' r delweddau yma yn dangos amrywiol weithgareddau'r grŵp rhwng Ebrill a Gorffennaf 2019.
Rhestr delweddau:
1. Gwaith adnewyddu cynnar ar y grisiau gorllewinol
2. Rhan o wely gwreiddiol y gamlas - llifddorau 32
3/4. Adnewyddu'r grisiau gorllewinol
5. Golygfa o lifddor 32 a bwthyn y llifddorau
6. Dymchweliad yr argae bach
7. Pen llifddor 31 - yn dangos gwaith carreg y basn uwch fel ag yr oedd

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw