Goleudy Ynys Lawd, Caergybi [Delwedd 1 o 4]
Disgrifiadau
Mae'r moroedd o amgylch Ynys Lawd yn adnabyddus fel rhai tymhestlog ac annaroganadwy. Mae clogwyni serth a chreigiau tanforol wedi bod yn berygl i longau am ganrifoedd lawer. Mor gynnar 1665, cyflwynwyd deiseb i Siarl II yn gwneud cais am gael goleudy wedi ei adeiladu ar Ynys Lawd. Fodd bynnag, fe'i gwrthodwyd gan iddo gael ei weld fel baich ariannol i gwmnau morio fyddai'n gorfod ariannu'r adeiladu a chynnal a chadw'r goleudy.
Ym 1807, roedd y Capten Hugh Evans o Gaergybi yn pryderu cymaint am y peryglon yn yr ardal fel y lluniodd fap yn amlinellu'r holl longddrylliadau a ddigwyddodd yn ystod y deuddeng mis blaenorol a'i anfon i'r Senedd yn Llundain. Ystyriwyd bod y colledion mor fawr fel y cafwyd caniatd ac adeiladwyd y goleudy. Rhoddwyd golau allan gyntaf ar 9 Chwefror 1809.
Cynlluniwyd goleudy Ynys Lawd gan Daniel Alexander a'i adeiladu gan Joseph Nelson. Cloddiwyd y garreg i adeiladu'r tŵr yn lleol a'i gludo i'r ynys gyda ffordd gebl. Defnyddid dirwynlath i halio deunyddiau eraill o'r cychod at laniad ar yr ynys.
Rhoddwyd lampau trydan yn lle'r lampau olew yn Ynys Lawd ym 1938. Fe'i gyrrwyd gan eneradur. Ni chafodd y goleudy ei brif gyflenwad trydan ei hun hyd 1963.
Cafodd y goleudy ei awtomeiddio ym 1984. Nid oedd angen ceidwaid bellach gan y gallai'r orsaf gael ei rheoli o bell o Ganolfan Rheoli Gweithrediad Tŷ Trinity yn Harwich.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment