Ysgol Fwrdd Wood Street, Temperance Town, Caerdydd, diwedd y 19eg ganrif
Disgrifiadau
Cynlluniwyd Ysgol Fwrdd Wood Street gan y pensaer George Robinson ac fe'i hadeiladwyd ym 1878. Ehangwyd yr adeilad ym 1891.
Datblygwyd yr ardal a oedd yn cael ei hadnabod fel 'Temperance Town' ar dir a adenillwyd wedi i Afon Taf gael ei harallgyfeirio ym 1850 er mwyn gwneud lle ar gyfer gorsaf reilffordd newydd. Gosodwyd y tir ar brydles i'r datblygwr, Jacob Scott Matthews, gan y Cyrnol Wood ac fe gwblhawyd y datblygiad erbyn tua 1864. Yr adeilad cyntaf i gael ei godi oedd y Neuadd Dirwest. Ni chaniatawyd codi unrhyw dafarndai yn yr ardal, a dyna pam y rhoddwyd yr enw 'Temperance Town' ar y lle. Mae'r rhan fwyaf o'r adeiladau a godwyd ar yr adeg hwnnw bellach wedi eu dymchwel ac mae'r safle erbyn hyn yn gartref i orsaf fysiau Caerdydd a nifer o adeiladau newydd eraill.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment