Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

Tynnwyd y ffotograff gan William Booth.
Cofgolofn John Batchelor (1820-83), 'The Friend of Freedom', yn Yr Aes, Caerdydd. Cafodd y gofgolofn ei chynllunio gan y cerflunydd James Milo Griffith a'i dadorchuddio ar 16 Hydref 1886.
Cafodd John Batchelor ei eni yng Nghasnewydd ond symudodd i Gaerdydd yn ystod y 1840au lle aeth ati i sefydlu busnes gwerthu coed yn Noc Gorllewin Biwt. Chwaraeodd ran weithgar iawn ym mywyd cyhoeddus a gwleidyddol Caerdydd, a bu'n gynghorydd ac yn faer am gyfnod. Ym 1869 cafodd ei ethol yn Llywydd Cymdeithas Ryddfrydol Caerdydd. Roedd hefyd yn ffigur blaenllaw ym meysydd crefydd ac addysg yng Nghaerdydd. Yn ystod y cyfnod hwn, bu Batchelor yn gwrthdaro gyda theulu pwerus y Biwt (a oedd yn cefnogi'r blaid Dorïaidd), ac roedd yn ddraenen gyson yn ei hystlys. Yn wir, roedd nifer o'i gefnogwyr o'r farn i'w fusnes adeiladu llongau fynd i'r wal oherwydd ymyrraeth y teulu Biwt. Yn dilyn ei farwolaeth ym 1883, sefydlwyd cronfa arbennig i godi cofeb iddo. Fodd bynnag, ar ôl i'r gofglofn hon gael ei dadorchuddio, fe esgorodd ar deimladau cryf yng Nghaerdydd a chyhoeddodd papur newydd y 'Western Mail' (a oedd yn gefnogwr brwd i'r teulu Biwt), feddargraff ffug a ysgrifennwyd gan elynion gwleidyddol Batchelor. Cafodd deiseb ei llunio hefyd, wedi ei harwyddo gan 1200 o bobl, yn galw ar y cyngor i dynnu'r gofgolofn i lawr.

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw