Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

Anfonwyd y llythyr hwn, dyddiedig 2 Gorffennaf 1956, at Thomas Alker, Clerc Corfforaeth Lerpwl, gan Elizabeth M. Watkin Jones, Ysgrifennydd Pwyllgor Amddiffyn Capel Celyn. Sefydlwyd y Pwyllgor ym mis Mawrth 1956, yn fuan wedi i Gorfforaeth Lerpwl gyhoeddi ei bwriad i adeiladu cronfa ddŵr newydd yng Nghwm Tryweryn, gan foddi pentref Capel Celyn, i'r gogledd o dref y Bala.

Lansiodd y Pwyllgor ymgyrch ddygn i wrthwynebu'r cynlluniau i foddi Cwm Celyn. Yn ogystal â chanfasio awdurdodau lleol, unigolion a chyrff cenedlaethol, trefnodd y Pwyllgor gyfres o gyfarfodydd, cynadleddau a ralïau protest ar draws gogledd Cymru ac yn ninas Lerpwl. Fodd bynnag, er gwaethaf eu hymdrechion ni lwyddwyd i rwystro'r datblygiad ac ar 1 Awst 1957 pasiwyd Deddf Corfforaeth Lerpwl. Dechreuodd y gwaith ar y safle dair mlynedd yn ddiweddarach ac fe gwblhawyd y cynllun ym mis Awst 1965.

Yn y llythyr hwn, gofynna'r Pwyllgor am gynnal cyfarfod brys gydag aelodau Corfforaeth Lerpwl, 'to ensure that your City Council, and through it the people of Liverpool are aware of the grounds of the Welsh opposition to the proposed drowning of Cwm Tryweryn'. Roedd aelodau Cyngor Lerpwl eisoes wedi gwrthod cais tebyg ddwywaith o'r blaen ac roedd y Pwyllgor Amddiffyn yn awyddus iawn iddynt ailystyried eu penderfyniad.

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw