Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

Mae gan y paentiad olew hwn (61cm x 78cm), sef portread hanner maint o ddyn ifanc mewn gwisg o'r ail ganrif ar bymtheg, yr arysgrif ganlynol ar y cefn: 'IACO CAPRA ÆTATIS SUAE AN XXII 1618 IF'. Roedd yn eiddo i'r Parch. William Evans (Wil Ifan), cyn-Archdderwydd Cymru, ac roedd yn hongian yn ei gartref hyd ei farwolaeth yn 1968. Tybir i'r llun gael ei roi iddo gan ddynes o Ddolgellau oedd wedi gweithio ym Mhlas Nannau, ger Dolgellau, a chredir bod y paentiad wedi dod yn wreiddiol o'r fan honno. Tybir mai'r ddynes oedd lletywraig Wil Ifan pan ddaeth i Ddolgellau i ymgymryd â'i ofalaeth gyntaf yn 1906 gyda Chapel yr Annibynwyr Saesneg.

Gadawodd y Parch. William Evans i astudio yn Rhydychen yn 1908, ond llwyddodd i gadw ei gysylltiadau â Dolgellau ar hyd ei oes gan mai dyma oedd cartref ei wraig, Nesta Wyn Edwards. Dydw i ddim wedi llwyddo hyd yn hyn i ddarganfod unrhyw beth am wrthrych y paentiad, Iacomo (Jacomo/Giacomo/Jacopo?) Capra, a oedd yn ôl pob golwg yn 22 yn 1618, nac ychwaith am yr arlunydd (IF?). Byddai hefyd yn ddiddorol dysgu mwy am gysylltiadau posibl y paentiad â theulu Nanney-Vaughan: a allai hwn fod wedi'i brynu ar Daith Fawreddog? Byddai unrhyw sylwadau yn dderbyniol iawn! Gweler isod:

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (2)

Maggi Evans's profile picture
The inscription is in Latin. - ÆTATIS SUAE AN XXII 1618 IF - This part translates loosely to in their 22nd year - 1618. The name of the subject - is "Iaco Capra" - The Latin for Nanny Goat is Capra. The family at Nannau at this time were named "Nanney" - Iaco, has roots in the name James or Jacob. So my best guess is that this is possibly a member of the Nanney family with the name of James Nanney (Iaco Capra) Best I can do - but obviously would need far more research!
Shirley Vinall's profile picture
Many thanks for your interest and the persuasive suggestion about the Capra/Nanney link. There is a shield in the top right hand of the painting but unfortunately it is not easy to distinguish its features and see if it resembles a Nanney family crest. The IGI does mention a James Nahnau/Nannau born about 1596, possibly the son of a Gruffydd Nannau and an Elen Wynn so clearly there is scope for more exploration.

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw