Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

Mae'r cerdyn post hwn yn perthyn i gasgliad o gardiau post a gyhoeddwyd gan y 'Western Mail', c. 1903-5. Enw'r gyfres oedd y 'Colliery Series'. Mae chwech o'r saith cerdyn post yn dangos lluniau coch a du dramatig o'r glowyr wrth eu gwaith o dan y ddaear, ac maent wedi eu harwyddo gan J. M. Staniforth. Fodd bynnag, mae un o'r cardiau post o liw glas ac yn dangos golygfa pur wahanol o lofa, sef 'A South Wales Colliery' - nid yw'r cerdyn hwn wedi ei arwyddo gan Staniforth. Ganed Staniforth yng Nghaerdydd ym 1863 a dechreuodd gyhoeddi ei gartwnau yn y 'Western Mail' ym 1889. Daeth ei gartwnau yn nodwedd bwysig yn y papur dros y blynyddoedd dilynol ac maent yn cynnig sylwebaeth dreiddgar ar sawl agwedd ar fywyd Cymru yn ystod y cyfnod.

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw