Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

Cadwodd David Lloyd George y dyddiadur hwn tra'r oedd yn gweithio fel cyfreithiwr yng Nghricieth. Mae'n arbenning o ddidorol gan iddo ei ysgrifennu pan yr oedd ar drothwy ei yrfa wleidyddol.

Mae'r dyddiadur yn cynnwys cofnodion hir sy'n rhoi manylion am fywyd personol Lloyd George yn ogystal â'i weithgareddau cyhoeddus. Yn arbennig, mae'n disgrifio ei araith gyhoeddus cyntaf ym Mlaenau Ffestiniog ar 12 Chwefror. Gwnaeth yr araith hon argraff ddofn yn lleol ac fe arweiniodd at sôn y byddai'n cael ei wahodd i sefyll fel ymgeisydd Rhyddfrydol Meirionnydd y flwyddyn honno.

Yn y cofnodion sy'n dilyn, disgrifia Lloyd George yn agored ac mewn cryn fanylder, ei weithgareddau gwleidyddol, ei ddyheadau a'i uchelgais. Ceir nifer o gyfeiriadau dadlennol hefyd at ei garwriaeth gyda Margert Owen o Fynydd Ednyfed, Cricieth.

Etholwyd Lloyd George i'r Senedd ym 1890 a daeth yn Brifweinidog yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, ym mis Rhagfyr, 1916. Ymddiswyddodd ym 1922 ond parhaodd yn Aelod Seneddol tan 1944.

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw