Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

Gwnaed y ddelwedd Hindŵaidd hon yng Nghaerdydd yn 2002 gan artistiaid o India, a gomisiynwyd gan Bwyllgor Puja Cymru. Teithiodd Nimai Chandra Pal a Bishwajit Chakraborty i Gymru i’w chreu. Credir mai hon yw’r ddelwedd gyntaf o Durga i gael ei gwneud gan artistiaid Indiaidd yng Nghymru. Cyn hyn, roedd Pwyllgor Puja Cymru yn dod â’u delweddau draw o India i Gymru. Roedd y delweddau cynharaf o Durga a ddefnyddiwyd gan Bwyllgor Puja Cymru wedi’u paentio ar gynfas.

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw