Llythyr oddi wrth John Jones, Bryn y Fedwen, Llanrug, at fab a'i ferch yng nghyfraith, Richard a Mary Jones, Beaver Dam, Wisconsin, 9 Ionawr 1865 [tudalen 1 o 4]
Disgrifiadau
Mae John Jones yn sôn iddo fod yn bur sâl ond drwy drugaredd yr Arglwydd ei fod wedi gwella'n weddol dda. Dywed fod David, brawd Richard, wedi bod yn sâl hefyd ond yn gwella erbyn hyn. Mae ganddo saith o blant.
Ni all John Jones ddeall pam nad oes un o'i blant yn ysgrifennu ato
'peth go ryfedd fy mod wedi troseddu yn erbyn pob un ohonoch fel fy mlant'.
Dywed mai dyletswydd ei blant yw cyd ymddwyn ag ef yn ei henaint. Dywed hefyd mai John oedd y diwethaf i ysgrifennu ato a hynny flwyddyn yn ôl i'r wythnos hon. Dywed ei fod yn meddwl llawer amdano a'i fod yn gobeithio'i fod yn fyw ac yn iach a dywed ei fod yn gobeithio daw'r rhyfel i ben yn fuan. Roedd John wedi dweud wrtho y byddai ei dad yn ysgrifennu at ei daid ond ei fod yn parhau i aros am y llythyr hynny flwyddyn yn ddiweddarach. Nid yw wedi derbyn llythyr oddi wrth un o'i blant ers dros ddwy flynedd.
Dywed hefyd fod Mary (chwaer Richard) wedi ysgrifennu atynt i gyd yn dweud am ei thrallod mawr o gladdu ei merch ond nad oedd un ohonynt wedi ysgrifennu'n ôl a hynny flwyddyn yn ddiweddarach. Mae'n sôn fod Ellin Glanrafon wedi priodi ac mae'n sôn hefyd fod rheilffordd yn cael ei hadeiladu rhwng Caernarfon a Llanberis.
Dywed ei fod wedi cael cnwd da o ŷd eleni ac mae eisiau gwybod sut y bu pethau gyda nhw. Mae'n sôn fod Owen Jones Rhos Ddu a gwraig John Roberts Tyddyn Ellen wedi'u claddu.
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment