Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

Mae mam John yn poeni nad yw wedi clywed dim oddi wrtho ers pythefnos er eu bod yn mynd i edrych yn aml. Aeth Owain i'r post yn unswydd dydd Gwener a dywed fod ei dad am fynd y prynhawn yma hefyd. Maent wedi gorffen cario'r ŷd i gyd heddiw. Maent wedi clywed fod Evan Richards adref ar 'furlough' er nad ydyn wedi ei weld eto. Dywed mam John fod Richard, ei frawd, eisiau mynd i ffwrdd yr wythnos nesaf rhag y drafft. Dywed ei fam ei fod fel yr oedd ef ddwy flynedd yn ôl i nawr, yn mynnu mynd heb fod rhaid iddo. Dywed y bydd edifar ganddo. Diwedda'r llythyr drwy ddweud wrth John 'i gadw dy olwg ar Iesu Grist ymhob amgylchiad lle bynag y byddi am dy fywid ynddo Ef'.

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw