Llythyr oddi wrth T. E. Hughes, Helena, Arkansas at deulu Corporal John Griffith Jones yn Beaver Dam, Wisconsin, 4 Tachwedd 1864 [tudalen 1 o 4]
Disgrifiadau
Dyma lythyr a ysgrifennodd T. E. Hughes at rieni John Griffith Jones yn dilyn ei farwolaeth.
Mae'n dweud ei fod yn falch eu bod yn cael cystal cymorth gan yr Arglwydd yn eu profedigaeth drom. Dywed fod Thomas a Sergt. Jones newydd 'expressio' pethau John i gyd atynt gan gynnwys y lluniau.
Mae T. E. Hughes yn dweud eu bod heb gael amser i gladdu John ond cafwyd amser i'w gario i fin y ffordd
'peidiwch a bod yn anesmwyth yng nghylch hynu; fe gafodd ei gladdu gan y gelynion a dwedaf wrthych pa fodd yr wyf yn gwybod - Daeth Majohr Head C S W i fewn gyda flag of truce at Col. Guppey ar ôl i ni ddod yn ôl i Bayaw Sara. Gofynodd Col Guppey iddo a oudd wedi claddu ein meirw, dedodd yntau iddynt gladdu pedwar on dynion ni felly claddwyd John canys pedwar on dynion a laddwyd'
Mae T. E. Hughes yn dweud ei fod am ysgrifennu cofiant i John i'w anfon i'r Cyfaill os gaiff ganiatâd. Nid yw mewn hwyl i ysgrifennu llawer oherwydd ei fod wedi torri ei draed gyda bwyall ond mae'n gwella
'derbyniwch ein cofion gwresauof an cydymdeimlad dros i chwi. Amen.'
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment