Skip to main content

Llythyr oddi wrth Corporal John Griffith Jones, o Morgan's Bend, at ei frawd yn Beaver Dam, Wisconsin, 20 Medi 1864 [tudalen 1 o 4]

Disgrifiadau

Dyma'r llythyr olaf i John Griffith Jones ysgrifennu at ei deulu. Dywed nad yw mewn hwyliau ysgrifennu heddiw. Cawsant eu gorchymyn allan o'r 'Sevent[?]' nos Wener ddiwethaf a chawsant awr o rybudd cyn dechrau. Dechreuasant am saith o'r gloch y bore a theithio hyd at ddau o'r gloch y bore gan orffwyso ddwywaith yn unig. Bu rhaid iddynt gysgu'r noson honno ar ddim ond blancedi rwber a hynny ar ôl cael coffi. Cawsant eu deffro ar doriad y wawr oherwydd fod y cogyddion wedi paratoi 'boreu fwyd' iddynt erbyn tua phump o'r gloch bore.
Roedd rhaid iddynt wedyn ddilyn y gwŷr meirch am tua wyth milltir nes i'r Cyrnol dderbyn neges fod rhaid iddynt aros yn eu safle presennol tan iddynt dderbyn cyfarwyddiadau pellach.

Mae John yn parhau i ddisgrifio'r siwrnai flinedig yn ôl i'r gwersyll ond mae'n dweud nad welodd unrhyw wrthryfelwyr. Roedd sgwadron o'r gwŷr meirch wedi eu brifo yn ddrwg.

Mae'n dweud wrth ei frawd ei fod yn gobeithio'i fod wedi penderfynu aros adref yn hytrach na mynd i ffwrdd. Dywed wrtho
'i mau y rhai sydd yn mynd oddi cartra yn caul ei galw yn byr isel yng ngholwg y milwyr yn gyffredin yn caul ei galwyn Cawards ar fath.'
Dywed wrtho fod hi'n well iddo aros adref a mynd i'r ysgol a dywed
'i mau y milwyr bron i gyd yn mynd am Lineolin, Abraham i mau y bobl yn lled benderfynol mai fo geith y lecto os y fo fydd yn ennill y dydd gallaf sicrhau i ti na fydd fawr o ymladd y tymor nesaf ond ambell i guirila hurt achos mi welant na fydd dim diben ymladd'.

Owner:
The National Library of Wales
Crëwr:
Jones, John Griffith, Corporal
Gwybodaeth drwydded
Reproduced by permission of Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Copyright Details:
Llyfrgell Genedlaethol Cymru 2010
Publisher Ref:
GTJ26268
Eitem wedi’i llwytho:
17/2/2010
Date originally created:
20/9/1864
Gwelediadau:
322
Ffefrynnau:
0

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment