Llythyr oddi wrth Corporal John Griffith Jones, o Morgan's Bend, at ei farwd yn Beaver Dam, Wisconsin, 15 Awst 1864 [tudalen 1 o 4]
Disgrifiadau
Mae John yn dweud wrth ei frawd eu bod wedi bod yn y lle hwn ers tua mis neu bum wythnos. Mae wedi bod yn dioddef rhyw ychydig o'r 'cryd'. Nid yw ar ddyletswydd ond bob ryw benwythnos erbyn hyn ers iddo gael ei wneud yn gorporal. Mae'n dweud mai dyma'r tro cyntaf iddo ysgrifennu gyda'i 'bin aur'.
Mae'n gofyn i'w frawd glustfeinio ar yr hyn mae'r bechgyn a'r merched yn Salem yn dweud. Mae ef wedi clywed sôn eu bod yn siarad amdanynt ac yn dweud y dylent ail ymrestru. Dywed wrth ei frawd am anfon eu hanes gorau gall ef er mwyn iddynt hwy gael gwybod 'phwy ydi y bradychwyr herllig'. Mae'n gofyn i'w frawd geisio gael gafael ar lun sydd yn yr Half y Way.
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment