Llythyr oddi wrth Corporal John Griffith Jones, o Drouce[?] Point, Texas, at ei deulu yn Beaver Dam, Wisconsin, 9 Ionawr 1864 [tudalen 1 o 4]
Disgrifiadau
Mae John yn dweud fod y bechgyn i gyd yn iach ac yn cofio at ei rieni. Mae un o'r gatrawd wedi marw ers iddynt gyrraedd ond mae dwy long lwythog o gyflenwadau wedi cyrraedd. Yn ôl John, mae digon o bob math o gig i'w gael - yn ffres neu yn hallt'. Hefyd, mae'r newyddion yn y papurau fod y milwyr i fod i gael un ar bymtheg doler y mis.
Mae John yn gofyn i'w rieni sut gyfarfodydd a gafwyd yn y capel ddiwrnod Nadolig a dros y Flwyddyn Newydd. Mae'n gofyn hefyd os oes cyfarfodydd gweddi, canu a llenyddol yn cael eu cynnal yn y capel. Dywed ei fod am anfon arian at y capel y tro nesaf iddo gael ei dalu a 'dipin o rodd ir parch D R Williams'.
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment