Llythyr oddi wrth Corporal John Griffith Jones, o Matagorda Bay, at ei deulu yn Beaver Dam, Wisconsin, 3 Ionawr 1864 [tudalen 1 o 4]
Llythyr oddi wrth Corporal John Griffith Jones, o Matagorda Bay, at ei deulu yn Beaver Dam, Wisconsin, 3 Ionawr 1864 [tudalen 1 o 4]
Disgrifiadau
Mae John yn dweud eu bod wedi cychwyn o New Orleans am ddeg o'r gloch noson Nadolig ar fwrdd llong stêm. Roedd hi'n dri diwrnod a thair noson cyn iddynt weld tir eto. Mae'n disgrifio'r siwrnai stormus ac yn sôn fod nifer o'r bechgyn yn sâl.
Maent erbyn hyn tua chwedeg milltir tu draw i Galvaston. Mae'n dweud fod siarc wedi dilyn y llong am ddwy awr un diwrnod. Maent wedi rhedeg allan o goffi ond maent yn gobeithio y bydd llong yn cyrraedd heno gyda chyflenwad o fwyd.
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment