Llythyr oddi wrth Corporal John Griffith Jones, o wersyll yn Iberia Newydd, Louisiana, at ei deulu yn Beaver Dam, Wisconsin, 21 Tachwedd 1863 [tudalen 1 o 4]
Disgrifiadau
Mae John yn dweud fod eu brigâd 'fel peth wedi marw' ar ôl y frwydr ar y trydydd o Dachwedd. Mae'n sôn am ymosodiad arall lle llwyddasant i gymryd tair ar ddeg o swyddogion a thua dau gant a hanner o garcharorion. Dywed fod y gwrthryfelwyr wedi colli eu hetiau a bod rhai heb gotiau, yn debyg i'r sut yr oeddynt ar y trydydd o Dachwedd. Mae John yn sôn mai dim ond tri Cymro sydd yno ar hyn o bryd ac mae'n dweud nad oedd erioed wedi meddwl y byddai'n cael ei adael ar ei ben ei hun pan yr oeddynt yn Kentucky, lle'r oedd deuddeg ohonynt gyda'i gilydd.
Mae John wedi clywed fod angen o leiaf wyth i naw cant o ddynion newydd i lenwi ei gatrawd ef. Mae'n teimlo'n chwerw iawn am yr hyn a ddigwyddodd ar y trydydd o Dachwedd ac maent i gyd eisiau dial yn ofnadwy.
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment