Llythyr oddi wrth Corporal John Griffith Jones, o Barnes Landing, Louisiana, at ei deulu yn Beaver Dam, Wisconsin, 31 Hydref 1863 [tudalen 1 o 4]
Llythyr oddi wrth Corporal John Griffith Jones, o Barnes Landing, Louisiana, at ei deulu yn Beaver Dam, Wisconsin, 31 Hydref 1863 [tudalen 1 o 4]
Disgrifiadau
Mae John yn sôn am frwydr 'pyr siarp' a gawsant ar y 19eg o'r mis ar baith Afolusias yn Louisiana. Cymerwyd amryw o garcharorion a chafodd rhai o'r gwrthryfelwyr eu lladd a'u clwyfo. Ni chafodd ond dau ddyn o'u hochr hwy eu clwyfo. Roeddynt ar y paith a'r gwrthryfelwyr yn y coed a dywed John fod cawodydd o sieliau yn disgyn yn y coed. Yn ôl John, ni chafodd y 'rebs amser i fwyta eu borae fwyd'.
Dywed John eu bod ar hyn o bryd yn cael digon o gig ffres a hefyd y mae'n sôn iddo dderbyn llythyr oddi wrth John W. Jones ers iddo ddechrau ysgrifennu'r llythyr hwn ac mae'n dweud ei fod yn gwella'n weddol dda.
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment