Skip to main content

Llythyr oddi wrth Corporal John Griffith Jones, o wersyll yn Vermilionville, Louisiana, at ei deulu yn Beaver Dam, Wisconsin, 17 Hydref 1863 [tudalen 1 o 4]

Disgrifiadau

Dywed John eu bod wedi symud ymlaen deunaw milltir ac mai dim ond eu brigâd nhw sydd yma hyd yn hyn o'r 13 corfflu oedd yn dod efo'r trên. Dywed fod y 'Rebs yn treio troublio ein provisions' ond mae'n credu y bydd ganddynt fyddin gref pan ddaw pawb at ei gilydd a fod criw da o wŷr efo ceffylau a fydd yn gwneud y rhan fwyaf o'r ymladd.

Dywed hefyd fod cryn dipyn o dwrw ymysg y bechgyn oherwydd fod [Banks?] yn rhoi gorchmynion mor llym ag mae John yn credu nad oes gan Corfflu'r 13 cystal cred ynddo ac yn Grant.

Mae John yn dweud eu bod yn derbyn dogn uwd ond mae yna orchymyn 'i riportio pob un a ddelir yn stragleo or Camp ai rhoddi ar hard labour'

Dywed John nad yw eu catrawd yn rhifo ond dau gant a hanner bellach gan gynnwys y nyrsys yn yr ysbyty.

Owner:
The National Library of Wales
Crëwr:
Jones, John Griffith, Corporal
Gwybodaeth drwydded
Reproduced by permission of Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Copyright Details:
Llyfrgell Genedlaethol Cymru 2010
Publisher Ref:
GTJ26206
Eitem wedi’i llwytho:
17/2/2010
Date originally created:
17/10/1863
Gwelediadau:
612
Ffefrynnau:
0

More items with these tags

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment