Skip to main content

Llythyr oddi wrth Corporal John Griffith Jones, o wersyll ger Orleans Newydd, at ei deulu yn Beaver Dam, Wisconsin, 22 Medi 1863 [tudalen 1 o 4]

Disgrifiadau

Mae John yn diolch i Dduw am roi ei iechyd yn ôl ac am roddi hapusrwydd iddo yn ei fan presennol. Mae'n falch o glywed fod T. E. Hughes wedi cyrraedd adref yn saff ac mae'n gobeithio y caiff yntau ei iechyd yn ôl yn fuan. Mae'n gofyn i'w rieni ddweud wrth T. E. Hughes fod eu harweinwyr, Burbridge a'r Cyrnol J. J. Guppy wedi dychwelyd at eu gwaith a fod y Cadfridog Burbridge wedi cael ei apwyntio'n reolwr yr adran.

Mae rhieni John eisiau iddo gael 'furlough' ond mae John yn dweud i'w gais gael ei wrthod oherwydd 'riw hen sgerbwd o ddoctor'. Mae doctoriaid ei gatrawd ef i gyd wedi mynd adref, un oherwydd salwch, a'r llall oherwydd fod tri o'i blant wedi marw a'i wraig yn annhebyg o fyw. Mae John yn siŵr y byddai Dr Wood neu Angel wedi rhoi 'furlough' iddo.

Mae John yn gofyn a fyddai modd i T. E. Hughes gario llyfr o emynau yn ôl gydag ef pan y daw yn ôl atynt. Mae hefyd yn sôn fod y coed o'u cwmpas yn llawn orennau a'u bod yn bwyta cimychiaid. Mae'n credu mai dyma'r lle gorau ers iddynt adael gwersyll Bandal. Mae'n ysgrifennu rhywfaint o Saesneg ar ddiwedd ei lythyr.

Owner:
The National Library of Wales
Crëwr:
Jones, John Griffith, Corporal
Gwybodaeth drwydded
Reproduced by permission of Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Copyright Details:
Llyfrgell Genedlaethol Cymru 2010
Publisher Ref:
GTJ26193
Eitem wedi’i llwytho:
17/2/2010
Date originally created:
22/9/1863
Gwelediadau:
268
Ffefrynnau:
0

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment