Skip to main content

Llythyr oddi wrth Corporal John Griffith Jones, o wersyll Vicksburg, at ei rieni yn Beaver Dam, Wisconsin,4 Awst 1863 [tudalen 1 o 3]

Disgrifiadau

Mae John wedi bod yn dioddef o'r cryd ers peth amser ond mae'r meddyg wedi rhoi ffisyg iddo a oedd yn 'ddigon pouth i losgi perfadd un' ac y mae'n teimlo llawer yn well erbyn hyn.

Mae wedi derbyn llythyr oddi wrth Moris Edwards Esq. a dywed y byddai'n hoffi derbyn llythyr arall ganddo. Gyda'r llythyr, yr oedd wedi anfon 'rhan o bregath gora a ddarllenais erioed'.

Mae 29 o ddynion wedi mynd lawr yr afon i Natchez ac mae'n disgwyl y byddant yn eu dilyn cyn hir. Dywed fod y lle yn fwy iach na Vicksburg.

Dywed fod T. E. Hughes a J. W. Jones yn iach ac fod y tywydd yn weddol braf. Mae'n annog ei rieini i wario'r deg dolar a anfonodd gyda'i lythyr diwethaf yn hytrach na'i gadw.

Mewn neges ar ddiwedd y llythyr, ysgrifenna John Griffith Jones iddo glywed fod Richard yn mynd i briodi merch ifanc hardd a'i fod yn cnoi tybaco hefyd.

Owner:
The National Library of Wales
Crëwr:
Jones, John Griffith, Corporal
Gwybodaeth drwydded
Reproduced by permission of Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Copyright Details:
Llyfrgell Genedlaethol Cymru 2010
Publisher Ref:
GTJ26160
Eitem wedi’i llwytho:
17/2/2010
Date originally created:
4/8/1863
Gwelediadau:
234
Ffefrynnau:
0

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment