Llythyr oddi wrth Corporal John Griffith Jones, o wersyll i'r gorllewin o Vicksburg, at ei rieni a'i frodur yn Beaver Dam, Wisconsin, 30 Gorffennaf 1863 [tudalen 1 o 4]
Llythyr oddi wrth Corporal John Griffith Jones, o wersyll i'r gorllewin o Vicksburg, at ei rieni a'i frodur yn Beaver Dam, Wisconsin, 30 Gorffennaf 1863 [tudalen 1 o 4]
Disgrifiadau
Dywed John ei fod wedi cael 'riw dwts bach or cryd' ond ei fod llawer yn well erbyn hyn. Mae ei law yn holliach er nad oes modd iddo wisgo côt fawr na 'dresscoat' pan fo eu hangen.
Mae'r tywydd wedi bod yn ddrwg ac yn ôl John, mae'r glaw a'r taranau yn waeth nac unrhyw beth a welodd yn Wisconsin.
Maent wedi cael gwybod fod angen 25,000 o wŷr meirch am dair blynedd neu am weddill hyd y rhyfel. Byddant yn derbyn 400 o 'bounty', 16 doler y mis neu 25 os oes ganddynt geffyl. Y mae hanner y gatrawd am fynd ond nid yw'r Cymry wedi penderfynu eto.
Mae wedi derbyn tâl heddiw ac mae'n anfon deg doler gyda'r llythyr hwn
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment