Llythyr oddi wrth Corporal John Griffith Jones, o wersyll ger Vicksburg, at ei rieni yn Beaver Dam, Wisconsin, 30 Ionawr 1863 [tudalen 1 o 2]
Llythyr oddi wrth Corporal John Griffith Jones, o wersyll ger Vicksburg, at ei rieni yn Beaver Dam, Wisconsin, 30 Ionawr 1863 [tudalen 1 o 2]
Disgrifiadau
Mae John yn diolch i'w rieni am eu llythyrau ac am yr arian ac mae'n sôn eu bod wedi derbyn 89 sent gan nad ydynt wedi tynnu ar eu dogn ers pedwar diwrnod.
Mae'n dweud fod y bechgyn bron i gyd yn sâl. Mae'n medru gweld y gelyn yn glir gyda llygad noeth ond nid yw'n disgwyl y bydd ei fataliwn yn ymosod eto oherwydd fod y dynion angen gorffwys cyn eu hwynebu.
Mae'r Is-Gapten wedi ymddiswyddo ac yn cychwyn am adref. Mae eraill wedi eu diswyddo a rhai wedi marw. Mae wedi clywed sôn eu bod am gael mynd adref ymhen tri mis ac mae'n gobeithio fod hyn yn wir.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment