Llythyr oddi wrth Corporal John Griffith Jones, yn Memphis, at ei rieni yn Beaver Dam, Wisconsin, 28 Tachwedd 1862 [tudalen 4 o 4]
Disgrifiadau
Mae John Griffith Jones yn ddiolchgar iawn i'w rieni am eu holl lythyrau. Mae'n ymddiheuro am beidio ag ysgrifennu cyn hyn ond mae wedi bod yn teithio o Nicholasville ers y 11eg o Dachwedd, gan gyrraedd Louisville ar y 15ed.
Cychwyn wedyn lawr afon Ohio ar long o Louisville ar y 19eg, gan gyrraedd Memphis canol dydd ar y 27ain. Aeth y cwch i drafferthion yn y banciau tywod sawl tro ar hyd y siwrne.
Nid ydynt wedi derbyn unrhyw dâl ac nid ydynt yn gwybod am ba hyd y byddant yn aros yma. Maent wedi gosod y gwersyll yng nghanol coed trwchus.
Mae JGJ yn cwyno
'nid oyddwn yn lecio ar y boat gystal a phan oyddyn yn marchio 18 milltir'
Nid ydynt wedi clywed oddi wrth Fredrick Jones ers iddynt ei adael yn Nicholasville ac maent yn 'anesmwyth amdano'.
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment