Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

Cyflwynwyd John 'Warwick' Smith i Iarll Warwick yn gynnar yn ei yrfa ac yn sgil hynny anfonodd yr Iarll Smith i'r Eidal ym 1776 a'i noddi tra'r oedd yno am bum mlynedd. Yn ystod y cyfnod hwn teithiodd a brasluniodd Smith cryn dipyn gydag arlunwyr fel Francis Towne a Thomas Jones. Ar ôl iddo ddychwelyd i Brydain ym 1781 trodd y brasluniau a wnaeth tramor i ddarnau i'w harddangos a theithiodd yn aml yng Nghymru ac yn Ardal y Llynnoedd. Ym 1795, teithiodd Smith o amgylch Cymru am y nawfed tro. Ar y llun dyfrlliw hwn mae'r arysgrif: ''26 July 1795 View from the Peak of Snowdon, looking to the Northwards, over the island of Anglesea, and the Holyhead Mountain-and to the sea beyond.''

Testun gan: Yr Adran Gelf, Amgueddfeydda ac Orielau Cenedlaethol Cymru

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw