Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

Mae'r ffotograffau hyn, a dynnwyd ym mis Mai 1978 gan David Jacobs, yn darlunio blaenau siopau yng nghanol tref Merthyr Tudful. Mae llun rhif pedwar yn dangos blaen siop Optegydd Offthalmig, busnes oedd yn eiddo i berthnasau Benjamin Hamilton, cyfreithiwr lleol a fu, fel crwner, yn gyfrifol am arwain y cwest i drychineb Aberfan.

Mae llun rhif saith yn dangos bar metel addurniadol yn rhan o wal adeilad masnachol. Efallai ei fod unwaith wedi dal symbol tair sffêr. Yn 1914, roedd Iddewon yn berchen ar chwech o'r saith o adwerthwyr ym Merthyr Tudful. Ar un adeg roedd Merthyr Tudful yn gartref i un o gymunedau Iddewig mwyaf Cymoedd De Cymru. Credir bod Iddewon Cyntaf wedi cyrraedd yno yn y 1820au a chafodd y synagog cyntaf ei adeiladu'n bwrpasol naill ai ar ddiwedd y 1840au neu ddechrau'r 1850au. Yn fuan iawn, roedd y gymuned lewyrchus wedi mynd yn rhy fawr i'r safle ac agorodd synagog newydd ar Stryd yr Eglwys ym 1877. O'r 1920au hyd at ganol y 1930au, roedd gan Gynulleidfa Hebraeg Merthyr Tudful hyd at 400 o aelodau, ond gyda newidiadau cyflym yn yr amodau economaidd 'r ymadawiad a ddilynodd, lleihaodd yr aelodaeth i 175 erbyn 1937. Cynhaliwyd gwasanaethau ym Merthyr tan ddiwedd y 1970au.

Ffynonellau:

'The History of the Jewish Diaspora in Wales' by Cai Parry-Jones (http://e.bangor.ac.uk/4987); JCR-UK/JewishGen (https://www.jewishgen.org/jcr-uk/Community/merth/index.htm). Depository: Glamorgan Archives.

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw