Skip to main content

Yr Ystafell Wely Orau, Tŷ Tredegar, Casnewydd, 17eg ganrif [delwedd 1 o 2]

Disgrifiadau

Wedi ei adeiladu fel rhan o'r tŷ 17eg newydd, roedd yr Ystafell Wely Orau yn ystafell wely oedd wedi ei neilltuo ar gyfer y gwesteion mwyaf pwysig. Ganddi hi mae'r wynebwedd orau o'r holl ystafelloedd gwely, yn meddiannu cornel y tŷ, gyda ffenestri ar y ddwy wal ac yn edrych dros y dramwyfa tuag at y tŷ, gyda'r Gatiau Edney ardderchog ar un ochr a'r parcdir ar y llall.

Adeiladwyd y tŷ heb goridorau, yn l yr arfer ar y pryd. Gellid cael mynediad i'r holl ystafelloedd trwy ystafelloedd eraill. Lleolid yr ystafell hon, felly, ar ddiwedd dilyniant o ystafelloedd gwely a rhagystafelloedd, fel nad oedd symudiadau pobl eraill yn tarfu ar y gwesteion gorau. Ychwanegwyd y coridor, sydd bellach yn rhedeg yn gyfochrog 'r ystafelloedd gwely, yn ystod y cyfnod Fictoraidd, pan roddid mwy o werth ar breifatrwydd.

Owner:
Tredegar House
Crëwr:
Unknown
Gwybodaeth drwydded
Reproduced by permission of T~ Tredegar
Copyright Details:
TÅ· Tredegar 2006
Publisher Ref:
GTJ75169
Eitem wedi’i llwytho:
17/2/2010
Date originally created:
1600-1699
Gwelediadau:
1515
Ffefrynnau:
0

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment