Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

Defnyddid yr Ystafell Eurad, yr uchafbwynt trawiadol i ddilyniant o ystafelloedd swyddogol yn Nhŷ Tredegar, fel ystafell encilio, ble gallai gwesteion ymlacio ar l cinio, cyn mynd i'w hystafelloedd gwely. Gyda channoedd o ganhwyllau yn ei oleuo, mae'n rhaid ei fod yn olygfa drawiadol, a doedd dim dwywaith fod cyfoeth sylweddol i deulu'r Morganiaid.

Mae'r waliau wedi eu panelu mewn pren pinwydd i fod yn debyg i bren collen Ffrengig. Mae'r paentiadau o amgylch yr ystafell, hefyd, wedi eu peintio yn syth ar y panelau. Y nenfwd yw'r unig nenfwd ar l ar y llawr isaf o'r 17eg ganrif, ac mae wedi ei adfer i'w ogoniant gwreiddiol.

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw