Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

Defnyddid Pantri'r Pentrulliad fel lolfa ac fel ystafell waith ar gyfer y pentrulliad. Yn wreiddiol, roedd pentrulliaid yn weision canol-radd, ond erbyn y 19eg ganrif, hwy yn aml, oedd y gweision uchaf eu safle yn y tŷ, gyda chyfrifoldeb arbennig am y seler win a'i offer, y pantri, arian y teulu, a rheolaeth dros staff gwrywaidd y tŷ. Ef, hefyd, fyddai chyfrifoldeb am weinyddion y tŷ yn ystod prydau bwyd y teulu ac a fyddai'n cymryd arno'r rl o gyfarfod a chyfarch ymwelwyr, a weithiau hyd yn oed yn ateb y drws (yn aml roedd gwas lifrai yn ymgymryd 'r dasg honno).

Yn Nhŷ Tredegar mae ystafell fechan gerllaw pantri'r pentrulliad gyda choffor mawr oddi mewn iddo; yno y cedwid plt y teulu. Yr oedd, ac y mae hyd heddiw, yn swydd hynod o gyfrifol yn y tai mwyaf mawreddog.

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw