Mam-guod y Cymoedd (2)
Disgrifiadau
Casgliad o ddelweddau gan Morgaine Davies, gafodd eu tynnu yn 2019, sy'n canolbwyntio ar fywydau merched o'r genhedlaeth hŷn yng nghymoedd de Cymru.
Janice Taylor, 75 oed. Roedd Janice yn gweithio yn y diwydiant manwerthu am dros 45 mlynedd. Pan oedd Janice yn ieuengach, byddai hi a'i brodyr a'i chwiorydd yn mynd am droeon i fyny Penycoedcae gyda brechdanau jam ac yn eistedd mewn cae o friallu i'w bwyta.
Fel rhan o Brosiect Ymarferol y Diwydiannau Creadigol, bydd myfyrwyr Gradd Sylfaen mewn Ffotograffiaeth yng Ngholeg y Cymoedd yn cyfrannu at archifau Casgliad y Werin Cymru er mwyn helpu i ddarparu gwell dealltwriaeth o Bobl yng Nghymru'r 21ain Ganrif. Y nod yw cael myfyrwyr i gydnabod eu hetifeddiaeth o fewn Ffotograffiaeth yng Nghymru ond hefyd i ddangos yr hyn y mae Pobl Cymru yn yr 21ain Ganrif yn ei gynrychioli.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment