Ystafell y Wraig Cadw Tŷ, Tŷ Tredegar, Casnewydd, c. 1890 [delwedd 1 o 2]
Ystafell y Wraig Cadw Tŷ, Tŷ Tredegar, Casnewydd, c. 1890 [delwedd 1 o 2]
Disgrifiadau
Ystafell fyw ger y gegin oedd Ystafell y Wraig Cadw Tŷ, a neilltuid ar gyfer yr aelod o staff mwyaf pwysig. Mae dodrefn cain yr ystafell yn dangos ei safle. Hi oedd yn cadw trefn ac yn sicrhau glendid yn y tŷ, ganddi hi roedd yr orchwyl o gyflogi a diswyddo staff benywaidd, a chadw rheolaeth lem ar nwyddau'r tŷ, megis llieiniau, canhwyllau, a'r siwgr a'r sbeisys cymharol ddrud. Yn wir, yn Nhŷ Tredegar, safai'r Cwpwrdd Sbeisys yn ei hystafell fyw hi, a dim ond o dan ei goruchwyliaeth hi y gallai unrhyw un gael mynediad iddo.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment