Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.
Disgrifiad
Dau ffotograff o dy gyda drws ffrynt glas. Mae 'mezuzah ' yng nghornel uchaf dde ffram y drws yn dynodi bod rhywun o dras Iddewig wedi byw yno ar un adeg. Yn ôl David Jacobs, a dynnodd y llun, roedd y tŷ ar Wood Road ym Mhontypridd (mae Wood Road yn parhau ac yn troi yn Cliff Terrace lle'r arferai synagog Pontypridd fod).
Vafodd synagog ei sefydlu ym Mhontypridd ym 1867, pan gafodd ysgoldy ei dro'n addoldy, ond mae'r gymuned Iddewig yn dyddio'n ol i'r 1840au o leiaf. Er bod aelodaeth y cynulliad yn parhau i fod yn fach, fe wnaethant sefydlu eu hadran eu hunain ym Mynwent Glyntaf yn yr 1890au a chodi synagog yn Nhrefforest yn 1895. Cafodd y cynullliad ei ddiddymu ym 1978 a chafodd y synagog yn Wood Road ei werthu a'i addasu i fod yn fflatiau.
Ffynonellau:
'The History of the Jewish Diaspora in Wales' by Cai Parry-Jones (http://e.bangor.ac.uk/4987);
JCR-UK/JewishGen (https://www.jewishgen.org/jcr-uk/community/val1_tredegar/index.htm).
Depository: Archifdy Glamorgan
Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod
Sylwadau (2)
Rhaid mewngofnodi i bostio sylw