Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.
Disgrifiad
Enw mwy cyffredin ar Fwthyn Iarlles Nithsdale yn y Trallwng yw Bwthyn Grace Evans. Roedd Grace Evans yn forwyn i Iarlles Nithsdale, merch i Farcwis cyntaf Powys. Bu i Grace gynorthwyo'r Arglwydd Nithsdale i ddianc o Dŵr Llundain ym 1716. Yn dilyn y ddihangfa ddramatig fe fu i Arglwydd Nithsdale a'i wraig ffoi i Ffrainc a chymerasant Grace gyda nhw. Dywedir bod y bwthyn yn rhodd i Grace gan Arglwydd Nithsdale pan ddychwelodd hi i'r Trallwng.
Sylwadau (0)
Rhaid mewngofnodi i bostio sylw