Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

Golygfa cerdyn post ddeniadol wedi ei lliwio â llaw a gynhyrchwyd yn y 1900au cynnar o adfeilion castell hynafol Trefaldwyn o'r 13eg ganrif.

Dechreuwyd adeiladu Castell Trefaldwyn ym 1233 gan Harri III, ar safle hen gastell tomen a beili. Codwyd y castell yn ystod ymgyrch Harri III yn erbyn Llywelyn ap Iorwerth (Llywelyn Fawr) ac fe'i roddwyd yn nwylo Hubert de Burgh ym 1228. Roedd y castell yn nwylo'r teulu Mortimer yn ystod y 14eg ganrif. Yn ystod Rhyfel Cartref Lloegr, ymladdwyd brwydr fawr yn Nhrefaldwyn ym mis Medi 1644, gyda hyd at 9,000 o filwyr yn cymryd rhan yn yr ymladd. Ildiodd y castell i'r Seneddwyr ac fe'i dinistriwyd ymron yn llwyr yn dilyn y rhyfel ar orchymyn y Senedd.

Ffynonellau:
http://www.castlewales.com/montgom.html
Cadw, 'A Nation Under Siege: The Civil War in Wales, 1642-48' (London, HMSO, 1991).

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw