Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

Print o Broad Street yn y Drenewydd, Sir Drefaldwyn tua'r flwyddyn 1848, wedi ei atgynhyrchu ar ffurf cerdyn post cynnar. Mae'r olygfa hon yn edrych o'r Bont Hir dros Afon Hafren i gyfeiriad canol y dref. Ar wahân i'r ffaith ei fod yn rhoi golwg ar fywyd stryd drefol y cyfnod, mae'r llun yn ddiddorol oherwydd iddo gynnwys hen neuadd y farchnad sydd i'w weld yma yng nghanol y stryd. Roedd adeiladau o'r math hwn, gyda marchnad dan do ar lefel y stryd ac ystafell fawr uwchben ar gyfer cyfarfodydd a materion gweinyddol y dref, yn nodwedd o'r rhan fwyaf o drefi marchnad ar un adeg. Ychydig iawn ohonynt sydd wedi goroesi hyd heddiw.

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw